Owdl ddychan
1 Cerbyd lled ynvyd llydanvai y sydd
2 nid vn swydd a Gwalchmai
3 cwn pob parth ai cyvarthai
4 [cymyrredd] cymyrred na [cherdd] ched ni chai
5 Carnben Res meigen magai i brydydd
6 brad ag ofn lle beiddiai
7 carwden ci a rodiai
8 corrodyn cerdd meiddlyn Mai
9 Cau reudus bwystus bostiai ai davod
10 o Deivi hyd Venai
11 corr yw oediawc ni'm credai
12 cwrr adain heb nain heb nai
13 Cariadau rhiau nid rhyvai vowrles
14 naws cyffes nis caffai
15 cerdd wermod a ddatodai
16 cern ap claf ni wnaf a wnai
17 [414] Cras enau geiriau ni ragorai riain
18 y trvthain y traethai
19 croesanaeth croyw a soniai
20 crys anardd taer vlowdvardd tai
21 Cyfrwys ddivwyn cwys cyd ceisiai
22 gwbl a gobr nis caffai
23 cyfred aml cyfrwy dimai
24 cyfri fe bob cyfryw vai
29 Carp trwsgl cwyn cwrwgl can carrai
30 Lowdr llyna leidr ovawai
31 cyfraith vydriaith ni vedrai
32 [cyfrang nag aer daer nid ai] coes derw'r to cas dorrwr
tai
25 clafaf anllataf llatai clafesav
26 yn arvau anervai
27 ci sietwn yw r cas atai
28 coes gwylan craig treiglwraig trai
33 Cerdd-dlawd brynhicnawd hacnai
34 bastynwas baw ystynwefl o asgai
35 canmil chwil a ymchwelai
36 cau was gorvlwng rhwng pob rhai
37 Cecrwawd ci cardlawd cecyrdlai
38 cwthwr veigl hir dreiglgest
39 hwyrdrai cafn latys mam blotai
40 cafn rhisg heb gyssecrwisg asai
41 Gwas cas coesvrith chwyth lowdwr
42 letbai gwan gwyn i vyd ai crocai
43 gwasc dasc descildraul kaul [coliai] cawlai
44 gwarr cwrcath gwydn chwiltath chwai
45 [415] Gwyddlud gwefl esgud gwiw vloe...
46 ar gwrw poen chwiwdwrw pan chwdai
47 gwall ball bell rhwysg kocys cicai
48 gwyllt byllt hyllt hoen gwrw troen trai
49 Gwilliad anwastad o westai llaxyedig
50 ar llaw vudr a daflai
51 gwelle diawl gwae lle delai
52 gwallawiawdr llwfr clerrddwfr clai
53 Gwir eilgorph reidus nid gwrawl
54 Gai hir hwyr ymrwydr y safai
55 gweren soegnen a sugnai
56 [gwarwag] gorwag croynyn llwydwag llai
57 Gwirawd o waddawd a weddai ir pryf
58 anaergryf oen oergrai
59 gwryd attaith gardotai
60 garw blu ni bu gwrab llai
61 Gwaith ymgeiniaith a ganai
62 i bawb heb wybod beth vyddai
63 gwythen llygoden geudai
64 gwaethaf llo bawaf lle bai
65 Res meigen gwden dan gedyrn
66 grogwydd dydd dy ddihenyfydd
hynaf erddyrn
67 rhusiedic a dig y xxx dyrn dy
ddanedd
68 rhyfedd mehinwledd gwydnwedd gwadnwyrn
69 Ruglvin gynevin genhowgvyrn vrynig
70 rhyvig ar vaeddgig nid ar veddgyrn
71 [416] Ruthrud wer a mer a mawr ysgyrndawd
72 rhythgnawd cyn diawd myn Cyndeyrn
73 Rhyvedd yw Cenyw canyrn ben gwowdver
74 rhefr goch gloch y gler galchwer gilchwyrn
75 Anwr yn sawdwr ansedyrn yn rhaid
76 amnaid delw danbaid nid ail Dinbyrn
77 Tuawc drvm llevawc drem llawyrn wysdnwlwyddth
78 anwiw friw heb frwyth golwyth gelyrn
79 rhwyddlodr anheodr anheyrn rhwymgnawd
80 grin o gysgawd groen ac esgyrn
81 Rediad dy lygad di lugyrn chwiltath
82 Rys goegvrys gigvrath vapcath vepcyrn
83 Rugyn sugyn soeg o goeg cegyrn rheidwal
84 ar hyd heal nid rhyw teyrn
85 Er na wypud lhud lhowdr gachxsyrn vrynig
86 dic owdl nac englyn osgyrn
lheidryn lhedrdhyrn
87 gwas ynvydverw chwerw chwyrn afrifed
88 Rhed gwyddut yved gwaeddod defyrn
Dauid ap Gwilim i Rys Meigen am ganv honaw ynteur englyn yma o
ddychan i vam Dauydd
[417][englyn Rhys Meigen wedi'i ddileu]
ar englyn serthvrwnt hwnw a ganwyd
ar ginio Ddie Nadolic yn llys Ll'en ap Gwilim vachan ap Glm ap Gwrwared yn
neheubarth a Dauydd a ganodd yr awdl yma i Rys Meigen yn ei wydd ac ynteu a
syrthiodd yn varw hyd y mae llawer yn i ddywedud
Nodiadau
Ceir arwydd i symud 25-28 o flaen yr englyn blaenorol.